Ym mis Medi 2020, bydd Brymbo Developments Ltd yn cyflwyno cais cynllunio amlinellol ar gyfer hyd at 300 o anheddau (defnydd Dosbarth C3), darparu ysgol gynradd (2 ddosbarth mynediad), canolfan leol fach sy’n cynnwys hyd at 1,395 metr sgwâr o Ardal Fanwerthu Dosbarth A1, Bwyty/Tafarn Dosbarth A3, defnydd Dosbarth D1, seilwaith gwyrdd aml-swyddogaethol, yn cynnwys man agored anffurfiol, gwaith gwanhau dŵr wyneb, mynediad i gerbydau, llefydd parcio, gwaith peirianyddol, llwybrau troed cyhoeddus a thirweddu caled a meddal, gwasanaethau tanddaearol, a’r holl waith ategol a galluogi, gyda’r holl faterion wedi’u cadw’n ôl ac eithrio mynediad at dir yng Ngwaith Dur Brymbo gynt, Brymbo.