CROESO

Mae Brymbo Developments Ltd (‘BDL’) yn cyflwyno ei gynigion i ddatblygu Parc Brymbo. Mae Parc Brymbo yn ddatblygiad defnydd cymysg cynhwysfawr a bydd yn arwain at nifer o fanteision i’r gymuned leol. Mae’r cynigion yn cael eu harwain gan ddyhead BDL i gyflwyno ysgol gynradd 2 ddosbarth mynediad newydd; cyfleusterau cymunedol; cyfleoedd siopa a hamdden. Mae gan Frymbo dreftadaeth ddiwydiannol gyfoethog ac mae BDL yn parhau i weithio gyda’r gymuned mewn perthynas â’r ardaloedd treftadaeth a allai arwain at fewnfuddsoddiad sylweddol yn amodol ar gael caniatâd cynllunio.

Bydd y gymuned leol yn gwybod bod cais cynllunio amlinellol ar gyfer arwynebedd safle mwy wedi cael ei gyflwyno i’r Cyngor ym mis Gorffennaf 2020 a’i fod yn mynd i gael ei ystyried. Yn anffodus, er gwaethaf y manteision sylweddol a fyddai’n deillio o ailddatblygu’r safle, nid yw Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam yn cefnogi BDL gyda’r datblygiad hwn ac mae hyrwyddo’r safle drwy archwiliad Cynllun Datblygu Lleol Wrecsam wedi cymryd mwy o amser na’r disgwyl (mae disgwyl i’r archwiliad ailagor ar 1af Medi 2020). Mae BDL felly wedi penderfynu cyflwyno cais cynllunio ar gyfer arwynebedd safle llai a fydd yn canolbwyntio ar lwyfandir Brymbo. Brymbo Lite yw’r enw ar hyn.

Mae BDL yn cyflwyno Brymbo Lite oherwydd byddai peidio â gwneud hynny’n golygu colli’r ysgol, y manteision treftadaeth a chanol y dref am gryn amser a’r manteision treftadaeth am byth. Mae BDL yn cyflwyno Brymbo Lite er mwyn sicrhau bod Cyngor Wrecsam yn gallu cytuno ar ganiatâd cynllunio derbyniol i BDL sy’n cyflawni’r manteision hynny i’r gymuned mewn ffordd amserol. Rydym wedi cael ar ddeall bod y cyllid ar gyfer yr ysgol mewn lle, mae’r Loteri wedi dyfarnu £9m ar gyfer yr Ardaloedd Treftadaeth, ac mae BDL wedi cael diddordeb mewn meddianwyr meddygol, archfarchnad a manwerthu ar y safle. Os caiff y caniatâd cynllunio ei oedi ymhellach, mae’n debyg y bydd y gymuned yn colli cyfran fawr o'r manteision hynny.

Mae’r seilwaith cychwynnol eisoes mewn lle er mwyn gallu dechrau’n gyflym ar y safle. Ar ôl dyfarnu caniatâd cynllunio amlinellol ddiwedd 2020 (mae BDL wedi gofyn i Gyngor Wrecsam flaenoriaethu trigolion Brymbo a rhoi cydsyniad yn ddiymdroi heb oedi pellach i'r datblygiad hwn) mae disgwyl i’r anheddau preswyl cyntaf a’r Ganolfan Leol gael eu darparu yn 2021.

Roedd BDL hefyd wedi cael caniatâd cynllunio amlinellol o’r newydd ar gyfer datblygiad preswyl ar dir yn Ffordd Treftadaeth, Tanyfron ar 29ain Gorffennaf 2020. Ar hyn o bryd mae BDL yn marchnata'r safle er mwyn sicrhau bod y cartrefi newydd hyn yn cael eu cyflawni. 

brymbo_site_photo